SL(6)105 – Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022

Cefndir a Diben

Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (“CTRS”) yw'r dulliau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i roi cymorth i aelwydydd ar incwm isel er mwyn iddynt allu talu eu treth gyngor.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 drwy:

·         uwchraddio rhai ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl ymgeisydd i ostyngiad o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, a lefel y gostyngiad dilynol i adlewyrchu cynnydd o ran costau byw;

·         gwneud newidiadau sy'n sicrhau bod Gwladolion Affganistan a Gwladolion y DU o Affganistan yn gymwys i gael eu cynnwys mewn CTRS awdurdod lleol (ac yn gymwys i gael disgownt os ydynt yn bodloni gofynion eraill y CTRS);

·         gwneud newidiadau sy'n sicrhau nad oes unrhyw un sy'n byw yng Nghymru sy'n ymgeisydd am y cynllun gwneud iawn ar gyfer goroeswyr cam-drin plant hanesyddol mewn gofal yn yr Alban yn cael ei effeithio'n negyddol o ran CTRS (mae unrhyw daliadau a dderbynnir gan berson o dan y cynllun hwnnw, a/neu unrhyw daliadau ex gratia a wneir gan Weinidogion yr Alban yn cael eu diystyru at ddiben cyfrifo cymhwysedd person ar gyfer CTRS); a

·         gwneud rhai diwygiadau technegol, cyflwyniadol a chanlyniadol.

Y weithdrefn

Cadarnhaol Drafft

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae rheoliad 12(1) yn darparu bod paragraff 19(5) o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 ("Rheoliadau'r Cynllun Diofyn") wedi’i ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5) (o reoliad 12). Mae hyn yn anghywir.

Fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, mae rheoliad 12(2) yn ceisio diwygio is-baragraffau ym mharagraff 19(5)(e) o Reoliadau'r Cynllun Diofyn. Fodd bynnag, nid yw paragraff 19(5)(e) yn cynnwys unrhyw is-baragraffau. Mae'n ymddangos y dylai paragraff 12(2) ddiwygio paragraff 19(4)(e) (sy'n cynnwys is-baragraffau).

Mae paragraffau (3) i (5) o reoliad 12 yn diwygio paragraff 19(5) o Reoliadau'r Cynllun Diofyn, a dylid datgan hyn yn benodol.

2. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae rheoliad 12(2)(b) yn newid ";" gyda "," ym mharagraff 19(4)(e) o Reoliadau'r Cynllun Diofyn. Mae hyn yn anghywir - dylai fod yn newid "." gyda “,”.

3. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae dau wall yn rheoliad 12(5) sy'n gysylltiedig â'r gwall a godir yn y pwynt adrodd technegol cyntaf (a dynnodd sylw at y ffaith nad yw pob un o'r paragraffau yn rheoliad 12 yn diwygio paragraff 19(5) o Reoliadau'r Cynllun Diofyn).

Mae Rheoliad 12(5) yn mewnosod paragraff (m) newydd yn rheoliad 19(5) o'r Reoliadau’r Cynllun Diofyn. Yn y geiriad a fewnosodir, ceir cyfeiriad at "paragraff (e)". Dylai hyn fod yn gyfeiriad at "is-baragraff (4)(e)", gan nad yw'n cyfeirio at baragraff (e) o'r is-baragraff y mae'n cael ei fewnosod ynddo (mae'n cyfeirio at is-baragraff (4)(e) nid is-baragraff(5)(e)).

Yn yr un modd, mae rheoliad 12(5) yn mewnosod paragraff (n) newydd yn rheoliad 19(5). Yn y geiriad a fewnosodir, ceir cyfeiriad at "paragraff (e)(iv) neu (m)". Dylai hyn fod yn gyfeiriad at "is-baragraff (e)(iv) neu baragraff (m)", am yr un rheswm ag yr amlinellir uchod (h.y. mae'r cyntaf wedi'i leoli mewn is-baragraff gwahanol, tra bod yr olaf wedi'i leoli yn yr un is-baragraff).

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Ni fu unrhyw ymgynghori ar y Rheoliadau hyn. Yn ôl y Memorandwm Esboniadol:

“Ymgynghorwyd ar Reoliadau CTRS 2013 a darperir manylion yn yr Asesiadau Effaith Rheoleiddiol sy'n cyd-fynd â'r Rheoliadau hynny.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Pwynt Craffu Technegol: Drafftio Diffygiol

Mae’r drafftio yn gywir ac nid yw’n cynnwys unrhyw ddiffygion.

Pwynt 1:

Amnewidiwyd paragraff 19(5)(e) o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Cynllun Diofyn”) gan reoliad 16 o Reoliadau  Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014. Bwriedir i baragraff 19(5)(e) gael ei ddiwygio ac mae’n cynnwys is-baragraffau (i) i (iii). Mae’n adlewyrchu rheoliad28(5)(e) o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013.

Pwynt 2:

Yn unol â hynny, mae’r atalnodi a fewnosodir gan reoliad 12(2)(b) i baragraff 19(5)(e) o’r Cynllun Diofyn yn gywir.

Pwynt 3:

Mae’r cyfeiriadau at baragraffau yn gywir, yn unol ag Arferion Offerynnau Statudol. Mae rheoliad 12(5) yn diwygio paragraff 19 o’r Atodlen i’r Cynllun Diofyn, nid rheoliad 19 o’r Cynllun Diofyn.

Pwynt Craffu ar Rinweddau: Ymgynghori

Nid oes unrhyw ofyniad statudol i ymgynghori mewn perthynas â’r rheoliadau diwygio hyn. Fodd bynnag, cynhaliwyd ymgynghoriad mewn perthynas â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 2013. Cynhelir dialog rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i barhau i sicrhau bod yr holl newidiadau a wneir er budd ceiswyr ac y tynnir eu sylw at gyd-destun y rheoliadau.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

17 Rhagfyr 2021